Dosbarth Blodeuwedd: Dosbarth Trochi Iaith
Blodeuwedd Class: Immersion Class
Mae Dosbarth Blodeuwedd yn ddarpariaeth trochi Gymraeg bwrpasol ar gyfer dysgwyr sy’n ymuno’n hwyr â’r Gymraeg. Mae’r dosbarth yn cynnig amgylchedd croesawgar a chefnogol lle caiff plant feithrin hyder yn y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf. Rydym yn deall bod dechrau dysgu iaith newydd yn gallu bod yn heriol, ac mae Dosbarth Blodeuwedd wedi’i gynllunio i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei werthfawrogi, ac yn llwyddo.
Drwy weithgareddau ymarferol, chwarae strwythuredig ac anstrwythuredig, a phrofiadau bywyd go iawn, mae disgyblion yn datblygu eu sgiliau iaith yn naturiol ac ystyrlon. Mae’r dysgu’n canolbwyntio ar gyfathrebu, gan annog plant i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau bob dydd. Mae’r dull trochi hwn yn galluogi disgyblion i lawn ddatblygu eu sgiliau llafar cyn symud ymlaen i ddarllen ac ysgrifennu, gan eu paratoi ar gyfer trosglwyddo llwyddiannus i’w grwpiau blwyddyn prif ffrwd.
Mae Dosbarth Blodeuwedd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi gweledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sef cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu. Trwy gefnogi dysgwyr i ymuno’n llwyddiannus â’r sector cyfrwng Cymraeg, rydym yn helpu i sicrhau bod plant yn parhau â’u taith addysg cyfrwng Cymraeg yn hyderus, gan ddatblygu sgiliau iaith cryf ar gyfer y dyfodol.
Dosbarth Blodeuwedd is a dedicated Welsh-language immersion provision for pupils who join Welsh-medium education at a later stage. The class provides a nurturing and supportive environment where children can build confidence in using Welsh from the outset. We recognise that learning a new language can be challenging, and Dosbarth Blodeuwedd is designed to ensure every learner feels secure, valued and supported to succeed.
Through hands-on activities, purposeful play, and learning rooted in real-life experiences, pupils develop their Welsh language skills in a natural and meaningful way. The emphasis is on communication, encouraging children to use Welsh confidently in everyday situations. This immersive approach enables learners to strengthen their spoken Welsh before progressing to reading and writing, supporting a smooth and successful transition into their year groups.
Dosbarth Blodeuwedd strongly supports the Welsh Government’s Cymraeg 2050 vision to increase the number of Welsh speakers and secure the future of the language. By enabling latecomers to access and thrive in Welsh-medium education, we help children continue their Welsh-medium learning journey with confidence, equipping them with valuable language skills for life.